Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 8
Chwefror 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy): Yn sgil cyhoeddiad Ofgem ynghylch roi terfyn ar osod mesuryddion rhagdalu yn orfodol, pa sylwadau y mae'r Gweinidog wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU ynghylch cefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu cael eu datgysylltu o ganlyniad i gael eu gorfodi i newid yn barod y gaeaf hwn?
Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar y cynnig cyflog newydd a gynigiwyd i weithwyr y GIG gan Lywodraeth Cymru?
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg - Absenoldebau disgyblion
(60 munud)
NDM8195 Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod y Senedd: Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, 'Absenoldeb Disgyblion', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 14 Tachwedd 2022.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 6 Ionawr 2023.
6 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Porthladdoedd rhydd
(60 munud)
NDM8200 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y cyfleoedd i borthladdoedd rhydd fywiogi economi Cymru, creu swyddi o ansawdd uchel, hyrwyddo adfywio a buddsoddi.
2. Yn nodi bod tri chais o Gymru wedi cael eu cyflwyno i'w hystyried gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau dau borthladd rhydd yng Nghymru, gan gydnabod y cynigion gwirioneddol eithriadol a gyflwynwyd a'r manteision trawsnewidiol y gallant eu cyflawni ar gyfer economi Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Sian Gwenllian (Arfon)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
1. Yn cydnabod bod porthladdoedd, harbwrs, cyrchfannau glan môr a chymunedau arfordirol eraill yn cael eu gadael ar ôl a bod angen buddsoddiad i sicrhau eu hyfywedd tymor hir.
2. Yn cydnabod ymhellach fod cymunedau arfordirol yn wynebu problemau strwythurol hir dymor amryfal, gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, dlodi a newidiadau amgylcheddol.
3. Yn nodi polisi porthladdoedd rhydd Llywodraeth y DU a'r newidiadau y cytunwyd arnynt i gynnig gwreiddiol Llywodraeth y DU.
4. Yn nodi ymhellach y cyflwynwyd tri chais o Gymru i'w hystyried gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a bod awdurdodau lleol a phartneriaid eraill wedi llunio ceisiadau y maen nhw'n credu sy'n adlewyrchu anghenion eu cymunedau.
5. Yn credu bod angen ymateb ehangach i'r materion sy'n wynebu ein cymunedau arfordirol gan gynnwys gwella seilwaith a mesurau i fynd i'r afael â thlodi.
6. Yn galw ar Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gynyddu'n sylweddol y cyllid a ddarperir ar gyfer seilwaith a lleihau tlodi yn ein cymunedau arfordirol er mwyn mynd i'r afael â'r problemau sy'n eu hwynebu.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Gwelliant 2 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod y tri chynnig a gyflwynwyd wrthi’n cael eu hasesu gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, yn unol â’r meini prawf a gyhoeddwyd ym Mhrosbectws Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio a bydd canlyniad y broses yn benderfyniad ar y cyd rhwng Gweinidogion Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth y DU fel rhan o broses agored a thryloyw.
Y Rhaglen Porthladd Rhydd yng Nghymru: prosbectws ymgeisio
7 Dadl Plaid Cymru - Datganoli treth incwm
(60 munud)
NDM8199 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn credu fod cyfyngiadau presennol pwerau amrywio trethi Llywodraeth Cymru yn rhwystr rhag llunio polisïau effeithiol yng Nghymru, yn enwedig y gallu i ymateb i'r argyfwng costau byw presennol, a'r argyfyngau sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus.
2. Yn credu y dylai'r Senedd feddu ar y cymhwysedd datganoledig i bennu ei bandiau treth incwm ei hun, yn unol â'r pwerau sydd eisoes wedi'u datganoli i Senedd yr Alban o dan Ddeddf yr Alban 2012.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gychwyn y broses a amlinellir yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006 i geisio pwerau a gedwir ar hyn o bryd i San Steffan er mwyn galluogi'r Senedd i bennu'r holl gyfraddau a bandiau ar gyfer Treth Incwm Cymru.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cydnabod y defnydd cyfrifol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o’i phwerau amrywio trethi i helpu i lunio polisïau effeithiol yng Nghymru yn ystod yr argyfwng costau byw presennol.
2. Yn cefnogi dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â datganoli trethi yn unol â'i hegwyddorion treth a'i huchelgeisiau ar gyfer cryfhau datganoli o fewn y Deyrnas Unedig.
8 Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8196 Russell George (Sir Drefaldwyn)
Manteision ymchwil meddygol yng Nghymru
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 14 Chwefror 2023